Skip to main content Skip to footer
7 Ebrill 2023

O Ffasiwn i Chwaraeon: Newyddiaduraeth o Bedwar Ban Byd

ADD ALT HERE

Mewn sesiynau arbennig ar Borth Adnoddau'r Coleg Cymraeg, mae rhai o newyddiadurwyr mwyaf blaengar Cymru o wahanol feysydd yn rhannu eu profiadau o weithio tramor mewn cyfres o gyfweliadau ar gyfer dysgwyr a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa neu astudio newyddiaduraeth.

Y tri newyddiadurwr profiadol sy’n rhannu eu straeon ydy Illtud Dafydd, sy’n gweithio gyda’r asiantaeth newyddion rhyngwladol, Agence France-Presse ym Mharis; Andy Bell, sy’n gynhyrchydd a gohebydd teledu yn Awstralia ers 35 mlynedd; a Megan Davies, sydd wedi gweithio fel newyddiadurwr ffasiwn ym Mharis cyn dychwelyd i Gymru i weithio i BBC Cymru.

Mae’r tri yn cael eu cyfweld gan lysgenhadon ôl-radd y Coleg Cymraeg sy’n astudio newyddiaduraeth yn y brifysgol, Annell Dyfri, a Llion Marc Carbis.

Recordiwyd y sesiwn gyntaf ar y 31 Ionawr gyda’r newyddiadurwr chwaraeon, Illtud Dafydd wrth y llyw. Ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, dywedodd:

“Dwi wedi bod yn gweithio i’r asiantaeth newyddion rhyngwladol, Agence France-Presse, ers 2018 bellach, ac wrth fy modd â’r wlad, yr iaith, a’r swydd. Dwi’n arbenigo mewn rygbi ac yn gohebu ar y tîm cenedlaethol, Les Bleus, i gynulleidfa ar draws y byd. Wrth i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd nesáu, bydd yr wythnosau a’r misoedd nesa yn sicr o fod yn gyffrous a phrysur iawn!”

Cyn symud i Baris, roedd Illtud yn gweithio i amryw gwmnïau cynhyrchu teledu yng Nghymru yn cynnwys BBC Sport Wales. Ond mae’n ddiolchgar yn bennaf am ei addysg uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth ble astudiodd Ffrangeg a Gwleidyddiaeth, ac i’r cwrs Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd am roi sylfaen cadarn a sgiliau eang iddo.

Ychwanegodd:

“Pe na bawn i wedi astudio newyddiaduraeth fel myfyriwr ôl-radd drwy gyfrwng y Gymraeg, dwi ddim yn credu y byddwn i yn y sefyllfa ydw i heddiw. Cefais gyfleoedd arbennig yn y brifysgol yng Nghymru, ac roedd gen i fwy o ddewis a chyfleoedd swyddi hefyd ar ôl graddio. Dwi wrth fy modd ag ieithoedd a chwaraeon felly mae’r swydd yma yn ddelfrydol i mi.”

Megan Davies

Y newyddiadurwr, Megan Davies sy’n cyflwyno’r ail sesiwn ar Borth Adnoddau’r Coleg Cymraeg. Yn wreiddiol o Abertawe, astudiodd Megan Ffrangeg a Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerwysg cyn symud ymlaen i wneud cwrs M.A. Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd ble enillodd Ysgoloriaeth T. Glynne Davies. Gyda diddordeb mewn ffasiwn, fel rhan o’i chwrs gradd, symudodd Megan i Baris i weithio i gwmni couture, Ralph & Russo, cyn symud ymlaen i weithio i gylchgrawn, Vogue. Erbyn hyn mae Megan yn gweithio fel newyddiadurwr aml blatfform gyda BBC Cymru, ac wedi elwa yn fawr o’i phrofiadau tramor.

Meddai:

“Roedd symud i wlad estron i weithio fel newyddiadurwr ifanc yn heriol ac mae’r profiad wedi rhoi sgiliau bywyd amhrisiadwy i mi, nid yn unig yn fy swydd fel newyddiadurwr ond yn gyffredinol hefyd. Mae byw tramor yn rhoi mewnwelediad a dealltwriaeth ddyfnach i chi o ddiwylliant gwlad a’i phobl, a ges i brofiadau bythgofiadwy. Byddwn i’n annog un rhywun sydd am ddilyn gyrfa fel newyddiadurwr i dreulio cyfnod yn gweithio tramor.”

Andy Bell

Y newyddiadurwr Andy Bell, sy’n cyflwyno’r drydedd sesiwn. Fel newyddiadurwr, cynhyrchydd a gohebydd sydd wedi gweithio yn y byd darlledu yn Awstralia ers 1988, mae Andy yn rhannu perlau o wybodaeth, cyngor, a phrofiadau a fydd o ddefnyddiol i’r rhai sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa neu astudio newyddiaduraeth.

Meddai:

“Mae’n fraint cael y cyfle i gyfrannu at weithgareddau’r Coleg Cymraeg.  Nid yn unig fel gohebydd profiadol a weithiodd yng Nghymru ac Awstralia, ond hefyd fel rhywun a ddysgodd y Gymraeg. Mae’n bleser ac yn gyfrifoldeb ar y genhedlaeth hyn i rannu ambell i brofiad gyda’r to ifanc. Mae ‘Newyddiaduriaeth o Bedwar Ban Byd’ y Coleg Cymraeg yn gyfle gwych i wneud hynny.”

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd yn ariannu’r prosiect ac fe drefnir y sesiynau ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe.

 

Yn ôl Ffion Hughes, Rheolwr Academaidd Addysg Uwch y Coleg Cymraeg,

“Mae’r Coleg yn falch o gefnogi’r prosiect hwn sy’n dangos nad oes ffiniau wrth astudio a dilyn gyrfa newyddiadurol drwy gyfrwng y Gymraeg. I’r gwrthwyneb, mae’n agor sawl drws i fyd amlieithog.”

Mae’r sesiynau ar gael i’w gwylio ar lein ar Borth Adnoddau'r Coleg Cymraeg.

Yn ogystal â'r sesiynau fideo mae Megan Davies wedi rhannu ei phrofiadau o weithio fel newyddiadurwr ar ffurf blog ar wefan y Coleg Cymraeg.