Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2022 i rannu ‘Sŵn y Stiwdants’ ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Mae’r 19 wedi’u lleoli mewn prifysgolion ledled Cymru. Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddysgwyr o ysgolion a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision o hynny.
Mae Heledd James yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac wedi ei dewis fel llysgennad am flwyddyn arall;
“Pederfynaisymgeisioifod yn llysgennad am yr ail flwyddynganfy mod iwedi ei mwynhaugymentllynnedd; defnyddio’rgwefannaucymdeithasol, rhannufymhrofiadau a chreufideos! Un o’r priffuddioni mi oeddgallulledaenu’rneges o pa morbwysigyw hi iastudiodrwy’rGymraeg,a’rhollgyfleoeddsydd yn dodgydahyn”
Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw o ffyrdd ar-lein, fydd yn cynnwys gwneud cyflwyniadau, creu a chyfrannu at gynnwys gwefannau cymdeithasol y Coleg, ysgrifennu blogiau a chreu podlediadau ‘Sŵn y Stiwdants’ a mynychu digwyddiadau pan yn saff i wneud hynny.
Gellir gwrando ar bodlediadau ‘Sŵn y Stiwdants’ ar Spotify, ble mae dysgwyr amyfyrwyrCymraeg yn rhannu eu profiadau, boed am fywyd Prifysgol, cyrsiau neu sgyrsiau ysgafn a rhoi’r byd yn ei le! Yn ogystal mae modd dilyn eu hanturiaethau a gweld lluniau’r unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg ac ar dudalen Instagram a Twitter ‘Dy Ddyfodol Di’ a Facebook a YouTube ‘Coleg Cymraeg’.