Skip to main content Skip to footer
17 Tachwedd 2021

Penodi Rhys Evans I fwrdd cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi Rhys Evans, Pennaeth Materion Corfforaethol a Pholisi Cyhoeddus, BBC Cymru, yn aelod newydd i Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. Bydd Rhys yn dechrau ar ei swyddogaeth y mis hwn ac yn parhau am gyfnod o bedair blynedd.

 

Mae gyrfa Rhys gyda’r BBC wedi ymestyn dros chwarter canrif fel Newyddiadurwr, Dirprwy Bennaeth Newyddion ac yn fwy diweddar fel Pennaeth Materion Corfforaethol a Pholisi Cyhoeddus ble mae’n gyfrifol am arwain ar bolisi, strategaeth a chyfathrebu allanol . Mae gan Rhys brofiad helaeth o safbwynt rheoleiddio a llywodraethiant ac mae’n gyfrifol am oruchwylio prosiectau gwerth miliynau o bunnau yn ei rôl gyda’r gorfforaeth, gan gynnwys digido archif BBC Cymru wrth sefydlu canolfan ddarlledu newydd BBC Cymru yng nghanol y brifddinas.   

Mae Rhys ar hyn o bryd yn treulio cyfnod sabothol fel Cymrawd Ymchwil yn Sefydliad Newyddiaduraeth Reuters, Prifysgol Rhydychen, ac yn cynnal ymchwil i ddarpariaethau newyddiadurol mewn gwladwriaethau datganoledig.

Meddai Llinos Roberts, Cadeirydd dros dro Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg: "Rydym yn falch iawn o benodi Rhys Evans i Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. Mae Rhys yn dod â phrofiadau a sgiliau gwerthfawr iawn i’r Bwrdd gan gynnwys yn y maes newyddiaduraeth a darlledu yn ogystal â’i brofiad fel rheolwr, ei waith academaidd a’i waith cyhoeddi. Rydym yn edrych ymlaen at ei gyfraniadau ar Fwrdd y Coleg ac yn bersonol rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i gydweithio efo fo yn y blynyddoedd i ddod."

Meddai Rhys Evans: "Dwi wrth fy modd o gael y cyfle hwn i weithio er lles dysgwyr ôl-16 yng Nghymru ac addysg Gymraeg. Nawr, wrth ddod allan o’r pandemig, mae sicrhau addysg a hyfforddiant o’r safon uchaf yn bwysicach nag erioed ac mae’r Gymraeg yn ganolog i hynny.  Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda thîm y Coleg wrth fynd â’r maen hwnnw i’r wal."