Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dymuno comisiynu prosiect ymchwil i ddeall yn well beth yw barn disgyblion, dysgwyr a phrentisiaid Cymraeg a dwyieithog o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill (DALlE) o gynlluniau amrywiol y Coleg i ddenu dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
Mae’r Coleg yn awyddus i gynyddu ei ymwneud gyda phobl o gefndir DALlE er mwyn annog mwy ohonynt i fanteisio ar addysg ôl-orfodol Cymraeg a dwyieithog. Bydd gofyn i’r unigolyn neu’r cwmni sy’n ymgymryd â’r gwaith lunio adroddiad yn seiliedig ar yr ymchwil ac i gynnwys argymhellion ar sut all y Coleg sicrhau bod ei gynnig yn fwy hygyrch ac apelgar.
Dywedodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg:
“Gyda thwf yn y niferoedd o bobl ifanc o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy’n siarad Cymraeg ar draws Cymru, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod mwy ohonynt yn cael mynediad at ac yn derbyn addysg ôl-orfodol Gymraeg a dwyieithog. Mae’r Coleg yn falch i gymryd camau rhagweithiol am y tro cyntaf i sicrhau bod ein cynnig yn hygyrch ac yn apelgar i bobl du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill ac yn cydnabod fod cyfraddau ymwneud pobl o’r cymunedau hynny gyda’r Coleg wedi bod yn is nag y byddem wedi dymuno.
“Drwy ddeall yn well beth yw agweddau pobl Ifanc o’r cymunedau hyn tuag at addysg bellach, addysg uwch a phrentisiaethau Cymraeg a dwyieithog, beth yw eu dealltwriaeth nhw o’r angen cynyddol am weithlu gyda sgiliau dwyieithog a’u barn am gynlluniau amrywiol y Coleg, ein bwriad ydy cyflwyno cynlluniau bydd yn y pendraw yn arwain at fwy o bobl o gefndiroedd amrywiol yn manteisio ar addysg ôl-orfodol Cymraeg a dwyieithog.”
Mae rhagor o wybodaeth a manyleb lawn ar gyfer y gwaith ar wefan y Coleg. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno pris ydy 13:00 dydd Gwener 7 Mai 2021.