Skip to main content Skip to footer
31 Mawrth 2023

Pump cwmni blaenllaw Cymreig yn rhannu arbenigedd gyda dysgwyr a phrentisiaid mewn adnodd busnes newydd sbon

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi adnodd newydd sy’n cynnwys pump astudiaeth achos o gwmniau Cymreig sy’n arddangos damcaniaethau busnes ar gyfer dysgwyr mewn colegau addysg bellach a phrentisiaid sydd yn astudio neu â diddordeb ym maes Busnes.

Y pum cwmni sydd yn cael eu cynnwys ydy Sesiwn Fawr, gŵyl gwerin boblogaidd flynyddol yn Nolgellau; gwesty enwog Portmeirion, sy’n denu miloedd o ymwelwyr ar draws y byd yn flynyddol; cwmni dosbarthu bwyd annibynnol mwyaf Cymru, Castell Howell; Melin Tregwynt, y felin wlân eiconig sydd wedi ei sefydlu ers dros 110 o flynyddoedd; a Theatr Genedlaethol Cymru.

Trwy wylio a gwrando ar weithwyr o bob lefel a sectorau bydd gan y dysgwyr gyfle hefyd i glywed eu profiadau, a dysgu sut mae’r Gymraeg a’r lleoliad yn rhan annatod o’u llwyddiant.

Yn ôl Sioned Williams sy’n ddarlithwraig yng Ngholeg Llandrillo Grŵp Menai,“"Mae cymaint o adnoddau ar gael sydd yn defnyddio enghreifftiau o gwmnïau Saesneg  ond dim cymaint o rai Cymreig. Bydd y rhain yn ysbrydoli myfyrwyr i ddefnyddio cwmnïau Cymreig yn eu gwaith a gweld ymhellach y cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru”"

Mae cydweithio effeithiol rhwng y Coleg Cymraeg a’r pump cwmni wedi galluogi mynediad arbennig a chyfweliadau egsgliwsif er mwyn darganfod y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus, a chael blas ar y swyddi amrywiol a diddorol sydd ar gael yma yng Nghymru.

Gyda chymorth, cydweithrediad a brwdfrydedd y cwmnïoedd, mae pum damcaniaeth busnes yn cael eu targedu sef; Rheoli Digwyddiad, Gwasanaeth Cwsmer Da, Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi, Adwerthu, Adeiladu Tîm mewn Busnes

Meddai Ellen Roberts, Rheolwr Adnoddau Dynol yng Ngwesty Portmeirion:

“Mae Portmeirion yn falch iawn i fod yn rhan o’r adnodd yma ar gyfer myfyrwyr sydd ag awydd cael gyrfa ym maes Busnes. Mae’n gyfle i arddangos y cyfleoedd gwych sydd yma yng Nghymru i weithlu’r dyfodol a pha mor bwysig yw personoliaethau amrywiol a gweithio mewn tîm i lwyddiant busnes a chreu teimlad o deulu mewn gweithle.”

Llun yng ngweithle Melin Tregwynt

Ychwanegodd Eifion Griffiths, Cyfarwyddwr Cwmni Melin Tregwynt

“Mae unrhyw gyfle i ddangos i weithlu’r dyfodol fod yna gyfleodd gwych o fewn busnesau a chwmnïau Cymru, sydd hefyd gyda phresenoldeb rhyngwladol, yn rhywbeth rydym yn teimlo’n gryf amdano ym Melin Tregwynt. Roedd bod yn rhan o adnodd Astudiaethau Achos Busnes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn achlysur nad oeddwn i am ei golli.” 

Yn ogystal â chlipiau fideo ceir darnau theori, gweithgareddau a geirfa arbenigol sy’n cyfoethogi’r ddealltwriaeth o’r damcaniaeth, ac mae Arwen, myfyriwr Busnes yng Ngholeg Llandrillo Menai wedi elwa yn barod o’r adnodd newydd

“Mae mor dda cael gweld adnoddau sydd yn defnyddio  busnesau Cymreig i ni gael defnyddio yn ein gwaith.  Fel arfer pan rydym yn ymchwilio ar-lein, busnesau ac enghreifftiau Saesneg sydd yn ymddangos. Mae'n wych darganfod y cyfleoedd eang sydd ar gael yng Nghymru gan fusnesau Cymreig a theimlaf yn gyffrous i’r dyfodol”

I sicrhau fod yr adnodd yn ddefnyddiol i ddysgwyr llai hyderus yn y Gymraeg, mae modd i fyfyrwyr wylio’r fideos gydag isdeitlau Cymraeg er mwyn darllen a gwrando ar yr un pryd. Yn ogystal, ceir opsiwn i droi at isdeitlau Saesneg er mwyn gwirio geirfa a chyd-destun. Ar gyfer termau busnes mwy heriol, mae’r Saesneg yn ymddangos yn syth ar ôl y gair er mwyn hwyluso’r broses ddysgu.

Mae’r adnodd ar gael ar Borth Adnoddau’r Coleg Cymraeg