Skip to main content Skip to footer
30 Ionawr 2024

“Rwy’n ddiolchgar i Gwyneth am roi’r hyder i mi weld fod unrhyw beth yn bosib”

ADD ALT HERE

Enillydd Gwobr Dathlu’r Darlithydd, Gwyneth Hayward, a’r fyfyrwraig a’i henwebodd, Ffion Targett, yn ysbrydoli pawb i fod yn uchelgeisiol

Wrth dderbyn gwobr Dathlu’r Darlithydd yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg llynedd, dywedodd Gwyneth Hayward, darlithydd Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd fod gan bawb yr hawl i fod yn uchelgeisiol a gwneud gwahaniaeth, beth bynnag eu cefndir neu lefel yn y Gymraeg.

Roedd Gwyneth yn hanner cant yn derbyn ei swydd gyntaf fel darlithydd, ac yn ei hansicrwydd wrth benderfynu newid swydd yn hwyrach yn ei gyrfa, ymateb ei dwy ferch sydd yn oedolion oedd, ‘Pam ddim ti, mam?’. Nid oedd gan Gwyneth gymhwyster yn y Gymraeg, a doedd hi ddim wedi derbyn addysg uwch cyfrwng Cymraeg chwaith. Ond, dros bum mlynedd yn ddiweddarach, mae Gwyneth yn ddarlithydd Ffisiotherapi cyfrwng Cymraeg ac yn medru cyfuno tri pheth mae’n angerddol amdanynt: addysgu, Ffisiotherapi a’r iaith Gymraeg.

Rwy’n ddiolchgar iawn y gwnes i gwrdd â Gwyneth yn y brifysgol oherwydd mae wedi fy ysbrydoli i ym mhob ffordd.

Ffion Targett

Yn ôl un o’i myfyrwyr, Ffion Targett, a enwebodd Gwyneth am y wobr, does dim amheuaeth fod Gwyneth yn ddarlithydd gwych. Ond yn ôl Ffion, mae rhai rhinweddau yn perthyn i Gwyneth sy’n mynd ymhell tu hwnt i’r galw. Wrth gyflwyno ei darlithydd i’r llwyfan i dderbyn ei gwobr, rhannodd Ffion yn onest ac yn agored iawn bod Gwyneth wedi cael effaith enfawr ar ei bywyd. Cwpl o fisoedd cyn dechrau ar ei chwrs, collodd Ffion ei thad yn sydyn. Yn ystod ei blwyddyn gyntaf ar y cwrs roedd Ffion yn amau y gallai gwblhau’r flwyddyn, heb sôn am gwblhau’r cwrs. Soniodd hi bod y gefnogaeth gafodd hi gan Gwyneth wedi gwneud iddi deimlo’n ddigon cyfforddus i rannu ei galar, ei phryderon a’i hamheuon. Erbyn hyn, diolch i arweiniad a chefnogaeth barhaus ei darlithydd, mae Ffion wedi graddio ac wedi derbyn swydd fel Ffisiotherapydd yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Cafodd Ffion ei geni ar aelwyd Saesneg ym Mhort Talbot ac mae’r Gymraeg yn bwysig iawn iddi. Yn ferch ifanc roedd yn rhaid iddi deithio'r holl ffordd i Ystalyfera bob dydd i’r ysgol Gymraeg agosaf gan nad oedd un ym Mhort Talbot ar y pryd. Roedd ei rhieni’n awyddus iddi dderbyn addysg Gymraeg, yn enwedig ei mam a oedd yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol gan iddi hi weld gwerth y Gymraeg yn y maes iechyd a gofal o ddydd i ddydd.

Ar ôl gadael yr ysgol, collodd Ffion ei hyder yn yr iaith Gymraeg nes iddi ddechrau ar ei chwrs Ffisiotherapi rhai blynyddoedd yn ddiweddarach a chael ei hail-atgoffa o berthnasedd a phwysigrwydd y Gymraeg gan ei darlithydd, Gwyneth.

Meddai Ffion,

Rwy’n defnyddio fy Nghymraeg bob dydd wrth fy ngwaith gyda fy nghleifion, ac mae eu wynebau yn disgleirio pan maen nhw’n sylweddoli fy mod i’n siarad Cymraeg, felly rwy’n mynd i gadw ati. Fel plentyn, roedd yn anodd iawn i mi ymarfer fy Nghymraeg yn fy ardal i, felly fe es i’n swil a doedd dim hyder gen i. Rwy’n ddiolchgar iawn y gwnes i gwrdd â Gwyneth yn y brifysgol oherwydd mae wedi fy ysbrydoli i ym mhob ffordd. Nid yn unig i ail-gydio yn fy Nghymraeg, ond mae hefyd wedi rhoi’r hyder i mi weld fod unrhyw beth yn bosib, hyd yn oed yn ystod cyfnodau heriol. Yn ystod cyfnod anodd a thywyll iawn i mi, ges i ychydig o obaith, felly hoffwn ddiolch yn fawr i Gwyneth am roi hynny i mi.

Ffion Targett

Meddai Gwyneth,

Roeddwn i mor ddiolchgar i Ffion am fy enwebu am y wobr ac yn ddiolchgar iawn hefyd am weledigaeth y Coleg. Mae’r iaith Gymraeg wedi dod yn rhan bwysig iawn o fy ngwaith fel darlithydd, ac rwy’n falch fod cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer sy’n astudio Ffisiotherapi trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond yn fwy na hynny, mae wir yn bwysig bod myfyrwyr yn hapus yn y brifysgol. Mae fy rôl i gadw llygad arnyn nhw ac i fod y person gallan nhw ddod ati pan mae angen yn un hollbwysig. Fel darlithydd neu diwtor personol, mae’n fraint bod yn rhan fach o daith rhywun a gweld nhw’n tyfu’n foesol ac yn broffesiynol, ac yn datblygu’n ddinasyddion da. Mae’n bleser i weld gymaint mae Ffion wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Wrth dderbyn fy ngwobr wrth Ffion, fe roddais i'r un cyngor iddi hi a’r hyn rhoddodd fy merched i mi cyn derbyn y swydd darlithio bum mlynedd yn ôl: ‘Pam ddim ti, Ffion?’ Mae gennyn ni gyd yr hawl i fynd yn bell, i fod yn uchelgeisiol, ac i geisio gwneud gwahaniaeth.

Os ydych chi’n fyfyriwr ac yn awyddus i enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth arbennig i’ch bywyd yn y brifysgol, mae enwebiadau yn agor ar gyfer Gwobrau 2024 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2024.

Mae unigolyn neu grŵp o fyfyrwyr yn gallu enwebu ar gyfer categori, ‘Dathlu’r Darlithydd’

Yn ogystal mae nifer o wobrau eraill wedi eu sefydlu mewn gwahanol feysydd ac mae cyfle gan fyfyrwyr, darlithwyr, a chyflogwyr (yn y maes prentisiaethau) enwebu unigolion ar gyfer yr amrywiaeth o gategorïau. 

I weld y rhestr lawn o gategoriau, y canllawiau, ac i lenwi'r ffurflen enwebu, ewch i'r adran 'Gwobrau' ar wefan y Coleg Cymraeg 

Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu llwyddiannau'r myfyrwyr, dysgwyr, prentisiaid a’r darlithwyr mwyaf disglair a’r rheiny sydd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog dros y flwyddyn.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrau yn nhymor yr haf.

Ewch i Instagram, Facebook, X, neu Tik Tok y Coleg Cymraeg i weld cynnwys ar y gwobrau, ac ewch i wefan y Coleg i ddarllen mwy.