Skip to main content Skip to footer
16 Mawrth 2021

Urddo tri chymrawd I’r Coleg Cymraeg

ADD ALT HERE

Denise Williams, Ieuan Wyn a Dr Iolo ap Gwynn fydd yn cael eu hurddo yn Gymrodyr er Anrhydedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cyfarfod rhithiol o Gynulliad Blynyddol y Coleg nos Fawrth 16 Mawrth 2021.

 

Cyflwynir Denise Williams gan Dr Gwawr Taylor, Dirprwy Ysgrifennydd Prifysgol De Cymru ac aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Meddai Dr Taylor:  “Mae Denise Williams wedi rhoi gwasanaeth oes i fyd addysg, gan gyfrannu at bob un cyfnod addysgol – o dymor cyntaf plentyn mewn ysgol gynradd at benodi a meithrin rhai o academyddion mwyaf profiadol ein prifysgolion. Dyfernir y gymrodoriaeth hon iddi er mwyn cydnabod ei hymrwymiad i’r iaith Gymraeg ym maes addysg uwch a chyfraniad oes i fyd addysg.” 

 Yr Athro Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n cyflwyno Ieuan Wyn. Meddai’r Athro Hopwood: “Mae Ieuan Wyn yn fardd a llenor nodedig, ac enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog yn 1987. Dyfernir y gymrodoriaeth hon iddo am ei waith gwirfoddol fel ymgyrchydd a’i ymrwymiad ymarferol wedi hynny i hyrwyddo cenhadaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.”

Gareth Pierce, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n cyflwyno Dr Iolo ap Gwynn. Meddai Gareth Pierce: “Mae cyfraniad Dr Iolo ap Gwynn i’r gwyddorau trwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn sylweddol ar hyd ei yrfa. Wedi astudio sŵoleg yn Aberystwyth, bu’n aelod o staff Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn y brifysgol honno hyd ei ymddeoliad yn 2009, gan arbenigo ym mywyd y gell a microsgopeg electron. Dyfernir y gymrodoriaeth iddo am gyfraniad oes tuag at addysgu a hyrwyddo’r gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Fel rhan o Gynulliad Blynyddol y Coleg, fe urddir unigolion yn Gymrodyr er Anrhydedd er mwyn cydnabod eu cyfraniadau allweddol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd. Mae cyfanswm o 24 o unigolion wedi eu hurddo yn Gymrodyr gan gynnwys y diweddar Dr John Davies, Dr Meredydd Evans a’r Athro Gwyn Thomas.

Yn ystod y Cynulliad, bydd cyfle hefyd i gydnabod 14 o fyfyrwyr sydd wedi sicrhau doethuriaethau dan nawdd y Coleg.

Cynhelir y seremoni ar-lein eleni ac estynnir croeso cynnes i bawb. I dderbyn dolen gyswllt dylid e-bostio: e.williams@colegcymraeg.ac.uk.