Mewn ymateb i’r newyddion am farwolaeth un o gymrodyr y Coleg, Denise Williams, meddai Prif Weithredwr y Coleg, Dr Ioan Matthews:
“Roedd Denise yn hannu o'r Creunant ger Castell Nedd. Wedi gweithio i nifer o sefydliadau ym myd addysg, yn Llundain ac yng Nghymru, fe'i penodwyd yn Ddirprwy Gofrestrydd Prifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru erbyn hyn) ac yn y swydd honno cymerodd gyfrifoldeb dros hyrwyddo'r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol dros nifer o flynyddoedd.
“Bu Denise hefyd yn gefnogol iawn i waith y Coleg. Cyn ei sefydlu hyd yn oed, roedd yn aelod o bwyllgor rheoli'r Ganolfan Addysg Uwch a bu'n cefnogi sawl prosiect cenedlaethol dros y blynyddoedd. Wedi ei hymddeoliad fe'i penodwyd yn aelod o Bwyllgor Penodiadau'r Coleg a bu'n aelod gweithgar o'r pwyllgor tan rai wythnosau yn ôl. Urddwyd Denise yn gymrawd o'r Coleg yn 2021 ac roedd yn hynod falch o allu ymuno gyda ni yn y Cynulliad Blynyddol ym mis Mawrth.
“Rydw i a chydweithwyr eraill wedi elwa ar gefnogaeth a phrofiad Denise ar sawl adeg dros y blynyddoedd a bydd bwlch mawr ar ei hôl. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w theulu a'i chyfeillion.”