Mewn ymateb i’r newyddion trist am farwolaeth un o ddarlithwyr cysylltiol y Coleg Cymraeg, Dr Llŷr Roberts, meddai Prif Weithredwr y Coleg, Dr Ioan Matthews:
“Roedd Llŷr yn un o’r darlithwyr cyntaf i gael ei benodi i swydd o dan nawdd y Coleg, ac mae wedi gwneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac i genhadaeth ehangach y Coleg dros y blynyddoedd, a hynny fel addysgwr, awdur a chyfathrebwr wrth reddf.
"Fel darlithydd cyfrwng Cymraeg yn y maes Busnes, derbyniodd Llŷr ganmoliaeth genedlaethol am ei waith a llynedd fe enillodd wobr ‘Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol’ gan y Coleg am ddatblygu’r e-lyfr cyntaf yn y maes marchnata yn yr iaith Gymraeg.
"Roedd Llŷr yn ysbrydoliaeth i’w gydweithwyr ac i’w fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, a bydd bwlch enfawr ar ei ôl.
"O fewn cymuned y Coleg mae'r newyddion yn anodd i'w ddirnad; mae nifer ohonom wedi colli ffrind yn ogystal â chydweithiwr. Estynnwn ein cydymdeimlad fel Coleg i'w deulu a'i gyfeillion.”