Skip to main content Skip to footer
8 Ionawr 2025

Ymateb y Coleg Cymraeg i farwolaeth Yr Athro Geraint H. Jenkins.

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn nodi gyda thristwch y newyddion am farwolaeth yr Athro Geraint H. Jenkins, un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru dros yr hanner canrif diwethaf, a chefnogwr brwd i addysg prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Dywedodd Prif Weithredwr y Coleg, Dr Ioan Matthews: 

“Bu cyfraniad Geraint Jenkins i ysgolheictod yng Nghymru yn un eang ac amlweddog, fel y dengys ei gyhoeddiadau niferus ar hyd y blynyddoedd. Ond rhoddai bwys mawr hefyd ar annog a chefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, ac elwodd nifer ohonom o’i anogaeth a’i gyngor dros y blynyddoedd.

“Yn ddiweddar cefais y fraint o’i wahodd, ar ran y Coleg, i gael ei urddo’n gymrawd er anrhydedd ym mis Mawrth, ac fe dderbyniodd y gwahoddiad ychydig cyn y Nadolig. Mae’n gadael bwlch mawr ym mywyd deallusol Cymru.  

“Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu a’i gyfeillion. ” 

 

Ychwanegodd Dr Dylan Phillips, Cyfarwyddwr Addysg Uwch ac Ysgrifennydd y Coleg a Chymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd pan oedd Geraint Jenkins yn Gyfarwyddwr: 

“Trist iawn yw clywed am golli Geraint, un o’r Cwmwl Tystion a wnaeth gymaint o gyfraniad at ysgolheictod hanes Cymru a’r Gymraeg.

“Bydd pawb ohonom a fu’n ddigon ffodus i ddysgu wrth ei draed neu a fu’n cydweithio ag ef ar ryw ffurf yn gweld ei golli yn fawr, ond bydd ei ddylanwad ar astudiaethau Cymru yn oesol.

“Byddwn yn meddwl am ei deulu yn sgil eu profedigaeth.”