Skip to main content Skip to footer

Staff Ysgol

Beth sydd ar gael i ysgolion?

Gallwn ni ddod i siarad â disgyblion blynyddoedd 12 a 13 yn eich ysgol chi unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Byddwn ni’n gallu sôn wrthyn nhw pam mae parhau i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o fantais iddyn nhw ac am yr ysgoloriaethau a’r cyrsiau sydd ar gael yn y brifysgol.  

Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad: marchnata@colegcymraeg.ac.uk  

Beth yw Llysgenhadon?

Mae llysgenhadon yn ein helpu ni i roi gwybod i bobl am beth ry’n ni’n ei wneud, a pha fath o bethau maen nhw wedi eu gwneud drwy’r Coleg. 

Mae'r Cynllun Llysgenhadon Ysgol yn gyfle gwych i ddisgyblion blwyddyn 12 a 13 gael sgiliau newydd, drwy rannu prif negeseuon y Coleg gyda’u hysgolion nhw a’r cyhoedd.  

Beth yw manteision y cynllun i'r disgyblion?

  • Cael eu talu
  • Profiad gwych i gynnwys mewn CV a ffurflen UCAS
  • Datblygu sgiliau ysgrifennu, llafar a digidol
  • Defnyddio'r Gymraeg beth bynnag eu lefel
  • Cyfarfod pobl ifanc eraill ar draws Cymru

Mae’r cyfnod recriwtio ar gyfer 2024/2025 wedi cau erbyn hyn, ond os ydych chi eisiau i'ch ysgol fod yn rhan o’r cynllun y flwyddyn nesaf, anfonwch neges at Lowri Bulman l.bulman@colegcymraeg.ac.uk

Blas o brofiadau llysgenhadon ysgol

Doctoriaid Yfory

Oes gennych chi ddisgyblion sy’n bwriadu gwneud cais i Ysgolion Meddygol? Beth am eu hannog i gofrestru ar gyfer ein cynllun ‘Doctoriaid Yfory’?  

Cynllun yw ‘Doctoriaid Yfory’ lle mae disgyblion blwyddyn 12 ac israddedigion sydd efallai eisiau astudio meddygaeth yn gallu gwneud gwahanol weithgareddau cyn eu bod nhw’n gwneud cais am le ar gwrs.   

Y nod yw cael mwy o ddisgyblion sy’n gallu siarad Cymraeg i mewn i ysgolion meddygol.    

Byddan nhw’n gallu cwrdd â phobl sy’n gweithio ym maes Meddygaeth, a myfyrwyr sy’n astudio Meddygaeth ar hyn o bryd, er mwyn clywed am eu profiadau nhw. Byddan nhw’n dod i ddeall mwy am y sector a’r math o sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, a bydd y sesiynau gweithgareddau hefyd yn edrych ar sut i baratoi cais a chyfweliad llwyddiannus.

Pryd allwch chi wneud cais i ymuno â’r cynllun?  

Ym mis Ionawr/Chwefror, ac mae angen llenwi ffurflen gais.  

Mae’r cynllun wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd ag Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe wedi cytuno i roi cefnogaeth i ddisgyblion a myfyrwyr sydd eisiau astudio meddygaeth.  

 Am fwy o wybodaeth ebostiwch m.evans@colegcymraeg.ac.uk   

Ffurflen ymgeisio Doctoriaid Yfory

CHWILOTYDD CYRSIAU

Mae cymaint o wahanol gyrsiau ar gael i'w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae modd defnyddio'r chwilotydd cyrsiau islaw i weld a yw’n bosibl astudio’r cwrs yn Gymraeg, ac os oes modd gwneud cais ar gyfer un o ysgoloriaethau’r Coleg drwy wneud y cwrs hwnnw.

Porth Adnoddau

Mae adnoddau gwych i ddisgyblion ysgol ac athrawon ar gael yn y Porth Adnoddau

Dilyna'r Coleg ar gyfryngau cymdeithasol