Skip to main content Skip to footer

Cymrodyr er Anrhydedd

Cymrodyr er Anrhydedd 2023

Yn flynyddol, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn urddo tri Chymrawd er Anrhydedd am eu cyfraniad oes tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae’r tri yn cael eu hurddo fel rhan o Gynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg. 

Delyth Murphy

Delyth Murphy

Yn frodor o Sir Gaerfyrddin, treuliodd Delyth Murphy ddegawdau ar staff Prifysgol Bangor, yn cyfrannu at y maes Ehangu Mynediad a Dysgu Gydol Oes, ac yn ddiweddarach yn arwain ar brosiectau a gwaith strategol yn y maes hwnnw. Cyfrannodd yn weithredol at ddatblygiadau cenedlaethol ym maes addysg cyfrwng Cymraeg cyn sefydlu’r Coleg. Yn 2012, fe’i penodwyd yn Is-Gadeirydd y Bwrdd Academaidd, gan weithredu yn y rôl honno am ddegawd ar hyd cyfnod Dr Hefin Jones fel Deon y Coleg. Cyflwynir y gymrodoriaeth i gydnabod ei hymrwymiad gydol oes i wella profiad dysgwyr ac i ehangu cyfleoedd dysgu i bawb, o bob oedran a chefndir.

Dr Haydn Edwards

Dr Haydn Edwards

Dr Haydn Edwards oedd Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 2017 a 2020. Yn y cyfnod hwnnw, ehangwyd cyfrifoldebau’r Coleg i gynnwys addysg bellach a phrentisiaethau, a chwblhawyd adolygiad llawn o gyfansoddiad a llywodraethiant y Coleg. Wedi cwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Salford, gweithiodd mewn prifysgolion ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau, cyn dod yn Brif Weithredwr Coleg Menai rhwng 1994 a 2009, pan ehangwyd darpariaeth y coleg yn sylweddol. Ef hefyd oedd awdur Codi Golygon, sef yr arolwg ar ran Llywodraeth Cymru, a arweiniodd at sefydlu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2016. Dyfernir y gymrodoriaeth am ei gyfraniad i ddatblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ond hefyd i addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Yr Athro Sioned Davies

Yr Athro Sioned Davies

Bu’r Athro Sioned Davies yn aelod o staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, am dros ddeng mlynedd ar hugain ac yn bennaeth yr Ysgol o ganol yr 1990au hyd ei hymddeoliad yn 2019. Mae’n un o’r pennaf arbenigwyr ar lenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd ac yn benodol y Mabinogi. Mae’r gymrodoriaeth yn cydnabod ei blaengaredd academaidd yn ogystal â’i chyfraniad dros flynyddoedd lawer i’r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd a thu hwnt. Bu hefyd yn un o gynheiliaid y Panel Iaith a Llên, o’i ddyddiau o fewn Prifysgol Cymru i’w gartref erbyn hyn yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rhestr lawn o Gymrodyr y Coleg

2021

Dr Iolo ap Gwynn

Denise Williams (1951 – 2023)

Ieuan Wyn

2019

Catrin Dafydd  

Andrew Green 

Yr Athro Deri Tomos

2018

Gwerfyl Roberts

Yr Athro Gareth Ff. Roberts

2017

Yr Athro Brynley F. Roberts (1931-2023)

Yr Athro R. Merfyn Jones

Dr Siân Wyn Siencyn 

2016

Geraint Talfan Davies

Ned Thomas

2015

Yr Athro Gwyn Thomas (1936-2016)

Heini Gruffudd

Catrin Stevens

2014

Dr Alison Allan

Cennard Davies 

Yr Athro Elan Closs Stephens

Dr Cen Williams 

2013

Yr Athro Ioan Williams

Yr Athro Robin Williams

Dr John Davies (1938-2015)

2012

Yr Athro Hazel Walford Davies

Yr Athro M. Wynn Thomas

Dr Meredydd Evans (1919 - 2015)