
Gweithio i'r Coleg Cymraeg
Mae’r ddogfen isod yn cynnwys gwybodaeth am weithio i’r Coleg.
Swyddi Gwag
Fe fydd unrhyw swyddi yn cael eu hysbysebu yma pan fyddant yn dod ar gael.
Cyfleoedd eraill
Gwahoddir ceisiadau am Gyfarwyddwr newydd i wasanaethu ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sydd yn awyddus i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiadau i ymuno â thîm sy’n arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.
Fel Cyfarwyddwr, byddwch yn cymryd rhan mewn penderfyniadau allweddol ar strategaeth a pholisi’r Coleg. Byddwch yn cyfrannu at sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth gyfunol y Cyfarwyddwyr er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei gyfrifoldebau ac yn cynnal safonau uchaf llywodraethu corfforaethol.
Rydym yn chwilio yn benodol am unigolyn sydd â phrofiad o arwain yn strategol, sydd â phrofiad o gynlluniau i hyfforddi a datblygu’r gweithlu addysg, a/neu brofiad ymarferol a diweddar o’r sector ysgolion uwchradd.
Mae’r Coleg hefyd yn awyddus i sicrhau bod gennym Fwrdd sydd yn adlewyrchu poblogaeth Cymru gyfan. Byddwn yn croesawu yn enwedig geisiadau gan bobl ddu ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Bydd y penodiad yn dechrau ym mis Mai 2023 ac am gyfnod o bedair blynedd. Disgwylir ymrwymiad amser o tua diwrnod y mis ar gyfartaledd.
Y broses gwneud cais a dewis
Croesewir ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir penodiad ar sail teilyngdod.
Gofynnir i’r sawl sydd â diddordeb ymgeisio i gysylltu gyda Dr Dylan Phillips erbyn 17 Mawrth 2023 (d.phillips@colegcymraeg.ac.uk i drefnu sgwrs ffôn neu MS Teams) er mwyn trafod rôl y Cyfarwyddwr ymhellach.
Dylid gwneud ceisiadau drwy gwblhau’r ffurflen gais (isod).
Dyddiad cau: 12:00 ar ddydd Gwener, 24 Mawrth 2023.