Skip to main content Skip to footer

Dysgu'r Dyfodol

Cynllun mentora a phrofiad gwaith i fyfyrwyr prifysgol

 

Mae Dysgu’r Dyfodol yn gynllun sy’n darparu mentor a phrofiad gwaith i fyfyrwyr prifysgol a allai fod â diddordeb mewn gyrfa fel athro ysgol (pob pwnc yn gymwys heblaw myfyrwyr BA Addysg gyda SAC).

 

Pwy sy’n gallu bod yn rhan o’r cynllun?

Unrhyw fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg sydd eisiau gwybod mwy am yrfa fel athro/athrawes (heblaw am fyfyrwyr BA Addysg gyda SAC).

  • Beth bynnag yw dy gynllun gradd (heblaw BA Addysg gyda SAC)
  • Ble bynnag rwyt ti’n astudio, gan gynnwys tu allan i Gymru
  • Ym mha bynnag flwyddyn o dy radd rwyt ti – Blwyddyn 1, 2, 3 neu ôl-raddedig

Mae taliad o £100 i bawb sy’n cwblhau’r cynllun!

Pwy yw’r Mentoriaid?

Athrawon gyrfa gynnar

  • Sy’n gweithio yng Nghymru
  • Sydd wedi cwblhau’r Cyfnod Sefydlu

 

Sut mae'n gweithio?

Mae myfyrwyr a mentor yn cael eu matsio, a bydd y mentor yn cynnig 3 sesiwn mentora ar-lein, awr yr un, AM DDIM i’r myfyrwyr, yn ystod tymor yr haf.

Bydd cyfle i’r myfyrwyr wneud dau ddiwrnod o brofiad gwaith mewn ysgol yn mis Mehefin neu Orffennaf.