Skip to main content Skip to footer

Hyfforddiant a Chyfleoedd

Hyfforddiant a chyfleoedd i fyfyrwyr ôl-raddedig

Mae’r Coleg yn cefnogi myfyrwyr ôl-raddedig i ddod yn ymchwilwyr o’r radd flaenaf ac yn eu paratoi i gystadlu am swyddi yn y byd academaidd a thu hwnt. 

Mae ein holl gynlluniau yn agored i fyfyrwyr ôl-raddedig a staff gyrfa gynnar o bob prifysgol – yng Nghymru a thu hwnt – beth bynnag yw dy bwnc a phwy bynnag sy’n dy gyllido. 

Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Ymchwil

Mae Rhaglen Sgiliau Ymchwil y Coleg yn agored i fyfyrwyr ôl-radd o bob prifysgol, ac wedi’i threfnu'n arbennig er mwyn cefnogi a chynnig hyfforddiant ymarferol i bob ymchwilydd gyrfa-gynnar – p’un a wyt ti'n astudio ar gyfer gradd Meistr, MPhil, PhD neu ymchwil ôl-ddoethurol.

Mae’r Rhaglen yn cynnwys nifer o gyrsiau wyneb-yn-wyneb, sesiynau ar-lein a chynhadledd ymchwil ryngddisgyblaethol flynyddol. Does dim cost i ti fynd i’r sesiynau hyn. 

Mae’r rhaglen hefyd yn ffordd o greu cymuned ac yn helpu meithrin ymdeimlad o berthyn, felly ymuna â chymuned ôl-raddedig y Coleg a manteisia ar y cyfleoedd sydd ar gael i ti.

Clicia ar y rhaglen isod i ddarllen rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau eleni. 

Cwrs 1

16 – 17 Hydref 2024: Aberystwyth

Cwrs preswyl yn cynnwys y gweithdai isod:

  • Cyflwyniad i ymchwil
  • Dod o hyd i wybodaeth
  • Hawlfraint ac eiddo deallusol
  • Taith a chyflwyniad i'r Llyfrgell Genedlaethol
  • Rheoli'ch goruchwyliwr
  • Llunio adolygiad o’r llenyddiaeth
  • Dulliau ymchwil
  • Cynllunio a chyflwyno posteri ymchwil
Cwrs sgiliau ymchwil 2024/25 1

Cwrs 2

13 – 14 Tachwedd 2024: Bangor

  • Rhoi graen ar eich gwaith (sgiliau astudio)
  • Cymraeg ar y cyfrifiadur
  • Iechyd a Lles
  • Cydweithio ar gyfer ymchwilwyr
  • Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno
  • Methodoleg dyfynnu a chyfeirio at ffynonellau
  • Cyfieithu, trawsieithu a rheoli termau
  • Rheoli amser a phwysau gwaith
Cwrs sgiliau ymchwil 2024/25 2

Cwrs 3

10 – 11 Rhagfyr 2024: Caerdydd

  • Ysgrifennu academaidd
  • Ymchwil a chyhoeddi
  • Sgiliau Microsoft i fyfyrwyr ymchwil
  • Sgiliau ysgrifennu 1:1
  • Paratoi a chyflwyno papur cynhadledd
  • Trefnu a rheoli eich ymchwil
  • Cynllunio, strwythuro ac ysgrifennu’r PhD
  • Cynllunio holiaduron, grwpiau ffocws a chyfweliadau
  • Cyflwyniad i Python
Cwrs sgiliau ymchwil 2024/25 3

Cwrs 4

28 – 29 Ionawr 2025: Bangor

  • Paratoi at y Viva
  • Paratoi cais am grant
  • Cynllunio gyrfa a chwilio am swyddi
  • Paratoi CV a chais effeithiol am swydd
  • Cyfathrebu a rhwydweithio digidol effeithiol
  • Cyflwyno'ch hun yn broffesiynol mewn cyfweliad
  • Cyfrannu at waith tîm
  • Ymdopi â newid: gorffen yn y brifysgol
Cwrs sgiliau ymchwil 2024/25 4

“Roedd cymysgedd o bob dim sydd angen er mwyn cwblhau PhD. Roedd hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â myfyrwyr eraill o Brifysgolion eraill oedd yn yr un cwch â mi. Rwy'n dal i gadw mewn cysylltiad gyda nhw“

Digwyddiadau i fyfyrwyr ôl-radd

Gweld mwy

Adnoddau perthnasol

Gwerddon

Eisiau lle gwych i gyhoeddi dy ymchwil am y tro cyntaf? Beth am ei gyhoeddi yn Gwerddon, sef cyfnodolyn ymchwil y Coleg.  

Gwerddon Fach

Os nad oes gen ti erthygl hir am dy waith ymchwil, beth am gynnig erthygl fer i Gwerddon Fach, ein blog ymchwil ar wefan newyddion Golwg360? 

Tystysgrif Sgiliau Iaith

Os wyt ti eisiau tystiolaeth o dy allu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, beth am wneud y Dystysgrif Sgiliau Iaith?  

Mae’r Dystysgrif yn agored i unrhyw fyfyriwr ôl-raddedig ar unrhyw lefel. Bydd tiwtor ar gael i gynnig arweiniad a rhoi cefnogaeth. 

Os wyt ti’n derbyn ysgoloriaeth PhD, bydd angen i ti wneud y Dystysgrif. Ac os wyt ti wedi ennill y Dystysgrif yn barod, mae tiwtor ar gael i gynnig cefnogaeth ieithyddol sydd wedi’i theilwra i dy anghenion unigol. 

Cynhadledd Ymchwil

Cynhadledd ryngddisgyblaethol flynyddol sy'n gyfle gwych i fyfyrwyr ymchwil a staff rannu eu hymchwil yn Gymraeg a chyfarfod ag academyddion eraill. 

Bydd Cynhadledd Ymchwil aml-ddisgyblaethol y Coleg ar 27 Mehefin 2025.

Cofia hefyd i'n dilyn ni ar Twitter ac Instagram, a chwilia am y Gymuned Ôl-radd ar Facebook!