Skip to main content Skip to footer
19 Ebrill 2024

Blog Heledd: Uchafbwyntiau fy mhrofiad gwaith gyda’r Coleg Cymraeg.

ADD ALT HERE

Yn ystod fy nhridiau yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eu prif swyddfa yng Nghaerfyrddin, cefais agoriad llygad i’r holl waith sydd yn cael ei gyflawni o fewn y sefydliad, yn ogystal â meithrin sgiliau newydd. Yn bwysicaf oll, ges i’r fraint o gyd-weithio gydag adrannau amrywiol, gan gyflawni tasgau, sydd wedi meithrin sgiliau fydd yn werthfawr iawn pan fyddaf yn ymgeisio am swydd ar ôl i mi gwblhau fy nghyfnod yn y brifysgol.

Ar hyn o bryd, rwyf yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio’r Gymraeg a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy gweithio o fewn y sector Gymraeg yn hyrwyddo’r iaith, a hefyd hoffwn symud i Gaerdydd i gael profiad o fwrlwm y ddinas.

Teimlais fyddai derbyn profiad gwaith gyda’r Coleg Cymraeg yn rhoi blas i mi o’r sector, a rhoi syniadau i mi o ran gyrfa yn y dyfodol.

Yn ystod fy nghyfnod gyda’r Coleg, dysgais lawer am y sefydliad gan gynnwys yr amrywiaeth o Ysgoloriaethau y mae’r Coleg yn eu cynnig i bobl ifanc i’w cefnogi gyda’u hastudiaethau yn y brifysgol. Mae 9 ysgoloriaeth i gyd mewn nifer o bynciau amrywiol ar gael i fyfyrwyr sydd yn dewis astudio yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. O bersbectif myfyriwr sydd o hyd yn gwario, mae bob ceiniog ychwanegol yn mynd yn bell! Mae hyd yn oed cymhelliant ariannol i annog myfyrwyr i wneud cwrs Hyfforddi Athrawon, yn ogystal â chynllun mentora a phrofiad gwaith, ‘Dysgu’r Dyfodol’ i’w cefnogi i fentro i’r byd addysg.

Dysgais am y Dystysgrif Sgiliau Iaith hefyd, a’r manteision o’i gwblhau gan ei fod yn ffordd dda i brofi eich sgiliau dwyieithog ac yn edrych yn wych ar CV. Yn ogystal cefais fy nghyflwyno i Borth Adnoddau'r Coleg, sydd yn berffaith ar gyfer myfyrwyr sydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ei fod yn llawn adnoddau dysgu ac adolygu ar-lein. Byddaf yn bendant yn defnyddio ‘porth.ac.uk’ wrth gwblhau fy nhraethawd hir yn y Brifysgol!

Un o’r prif bethau mae’r Coleg yn gweithio tuag at ar hyn o bryd ydy sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol neu’r Coleg yn gynhwysol i bawb yng Nghymru. Cefais y fraint o gael sesiwn gydag Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg, ac yma dysgais am ei gwaith pwysig yn dylanwadu a sicrhau bod gan bob unigolyn o gymunedau sy’n cael ei thangynrychioli llais.

Er mor addysgiadol oedd fy mhrofiad gwaith, fy mhrif uchafbwynt oedd y cyfle i gyd-weithio gyda gwahanol unigolion, a rhoi fy mewnbwn (o safbwynt myfyrwraig) i wahanol brosiectau gan fy mod i’n haelod o’i chynulleidfa darged.

Dwi’n ddiolchgar iawn i’r criw yn y swyddfa yng Nghaerfyrddin am fod mor groesawgar ac am fy nghadw i’n brysur dros y tridiau diwethaf! Rwyf wedi cael nifer o brofiadau gwahanol a chyfarfodydd diddorol gyda staff o swyddfeydd y Coleg Cymraeg ar draws Cymru. Rwyf wedi cael blas o weithio mewn sefydliad proffesiynol a chyfle i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn addas i mi mewn swydd yn y dyfodol. Rwyf yn gadael fy nghyfnod profiad gwaith gyda dealltwriaeth werthfawr o waith y Coleg Cymraeg, ac wedi cael y fraint o gyfarfod â nifer o unigolion newydd. Nes i wir fwynhau fy nghyfnod gyda’r Coleg, a dwi’n gobeithio gallu cadw mewn cyswllt a dod yn ôl yn y dyfodol!