Yn ei nodyn cyngor cyntaf i Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil), mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) yn gosod gweledigaeth fod pob dysgwr yn y sector drydyddol yn defnyddio, cynnal a datblygu eu Cymraeg yn ystod eu cyfnod yn astudio neu hyfforddi.
Heddiw, dydd Mawrth, 17 Rhagfyr, mae’r Coleg yn falch o gyhoeddi ei gyngor cychwynnol llawn i Medr ynghylch ei ddyletswyddau yn ymwneud â’r Gymraeg, yn unol â’i ddynodiad statudol i gynghori’r corff hyd braich, fel y’i amlinellir yn Neddf Addysg Drydyddol 2022.
Mae nodyn cyngor cyntaf y Coleg i Medr yn nodi’r weledigaeth ganlynol:
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Dylai pob dysgwr yn y sector addysg drydyddol gael cyfle ac anogaeth i ddefnyddio, cynnal a datblygu eu Cymraeg, mewn dull ac ar lefel sydd yn briodol ac yn teimlo’n berthnasol iddynt. Dylai pob dysgwr gwblhau eu haddysg neu hyfforddiant trydyddol yn meddu ar sgiliau Cymraeg fydd yn eu cynorthwyo yn eu camau nesaf yn eu gyrfa a’u bywydau, gan eu caniatáu i fod yn aelodau o weithluoedd a chymunedau dwyieithog. ... Mae dysgwyr yn gadael y sector drydyddol wedi cael profiadau addysgol Cymraeg a dwyieithog o’r safon uchaf ac yn barod i ddefnyddio’u Cymraeg yn y gweithle ac yn y gymuned.”
Mae’r Coleg hefyd yn cynghori Medr i ymrwymo yn ei Gynllun Strategol cyntaf i ddatblygu Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg ar draws y sector addysg drydyddol gyfan, ac yn nodi egwyddorion a nodau i'w hystyried wrth lunio’r Cynllun.
Mae’r Coleg, felly, yn croesawu ymrwymiad Medr i lunio Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg fel yr amlinellir yn ei Gynllun Strategol cyntaf a gyflwynwyd am gymeradwyaeth i Lywodraeth Cymru ar ddydd Gwener 13 Rhagfyr 2024 ac yn edrych ymlaen at ddarparu cyngor pellach i Medr wrth i’r cynllun gael ei ddatblygu.
Yn ôl Prif Weithredwr y Coleg, Dr Ioan Matthews:
“Mae gwireddu targedau Cymraeg 2050 i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith yn cynnig her benodol i’r sector drydyddol. Yn y sector hwn y mae gweithlu dwyieithog y dyfodol yn cael eu hyfforddi, o weithwyr gofal i feddygon, o gynorthwywyr dysgu i athrawon, o filfeddygon i barafeddygon.
“Mae’r Coleg yn hynod falch o gyhoeddi ei gyngor cychwynnol i Medr, sy’n amlinellu gweledigaeth, egwyddorion a nodau uchelgeisiol fydd yn caniatáu i Medr weithredu ar ei ddyletswyddau statudol mewn perthynas â’r Gymraeg.
“Mae’r Coleg yn edrych ymlaen at gynghori Medr ar ddatblygu’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg er mwyn cyflawni’r weledigaeth bod darpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar gael i bawb sy’n astudio a hyfforddi yng Nghymru, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg.”
Mewn llythyr yn ymateb i'r cyngor cychwynnol gan y Coleg, meddai Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr Medr:
“Mae’r berthynas â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hollbwysig i Medr. Rydym yn unedig yn ein dyhead i weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru, ac wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector addysg drydyddol yn chwarae ei ran i wireddu gweledigaeth am filiwn o siaradwyr yng Nghymru erbyn 2050. Mae’r cyngor a gawsom yn nodi dechrau cyfnod newydd pwysig o gydweithio, gan adeiladu ar y seiliau cadarnhaol a osodwyd gennym eisoes. Bydd Cynllun Cenedlaethol yn sbardun hanfodol i alluogi mwy o ddysgwyr i feithrin, cynnal a defnyddio'u sgiliau Cymraeg.”
Sefydlwyd Medr, sy’n weithredol ers 1 Awst 2024, fel corff hyd-braich newydd i fod yn gyfrifol am gyllido a goruchwylio addysg ac ymchwil ôl-16 yng Nghymru. Mae gan Medr ddyletswyddau strategol statudol i:
- annog y galw am addysg drydyddol Gymraeg a chyfranogiad ynddi;
- cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o addysg drydyddol Gymraeg i ateb y galw; ac,
- annog darparu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn unol â darpariaethau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi’r Coleg yn ffurfiol i gynghori Medr ar ei ddyletswyddau strategol statudol yn ymwneud â’r Gymraeg.
Cyhoeddwyd memoradwm o ddealltwriaeth rhwng y Coleg a Medr ym mis Awst 2024 sy’n amlinellu sut bydd y Coleg yn cynghori Medr ar ei ddyletswyddau statudol i gynyddu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector drydyddol ac annog y galw amdano. Cyflwynwyd cyngor cychwynnol y Coleg i Medr ym mis Medi 2024. Yn unol â’r memorandwm, mae Bwrdd Medr wedi ystyried y cyngor yn llawn ac fe gyhoeddir ei ymateb ar wefan Medr.
Ym mis Chwefror 2024 cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddatganiad o flaenoriaethau ar gyfer Medr oedd yn galw arno i:
“D[d]atblygu cynllun i gynyddu a gwella'r ddarpariaeth addysg ac asesu cyfrwng Cymraeg yn y system drydyddol gyfan, a'i hyrwyddo, gan gydnabod rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y person dynodedig o dan Adran 9 o Ddeddf 2022 a Cymwysterau Cymru fel y rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol. Mae hyn yn rhan allweddol o'r llwybr di-dor i ddysgwyr at yr addysg drydyddol o'u dewis.”