Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) yn galw ar fyfyrwyr, dysgwyr a staff i enwebu unigolion sydd yn gwneud gwahaniaeth arbennig i addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Mae cyfnod enwebu Gwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2026 yn cau ar 23 Chwefror 2026.
Mae’r gwobrau yn dathlu llwyddiannau myfyrwyr, disgyblion, dysgwyr, prentisiaid a darlithwyr sydd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog dros y flwyddyn.
Mae amryw o gategorïau mewn gwahanol feysydd ac mae’r gwobrau yn gyfle gwych i gydnabod unigolion sydd yn gwneud gwahaniaeth arbennig yn eu prifysgol, eu coleg addysg bellach, mewn chweched dosbarth neu yn y gweithle.
LANSIO GWOBRAU NEWYDD
Yn ogystal â’r categorïau cyfarwydd, eleni mae dau gategori newydd, un yn y sector ysgolion, a’r llall yn y maes iechyd a gofal.
Y wobr newydd ar gyfer y sector ysgolion ydy Gwobr Annog Disgyblion. Dyfernir y wobr i athro mewn ysgol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sydd wedi cymell a chefnogi disgyblion i barhau â’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg trwy flwyddyn 12, 13, a thu hwnt.
Mae’r Wobr Iechyd a Gofal newydd yn cydnabod prosiect neu gyfraniad arloesol a gyflawnwyd trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddysgwr neu aelod o staff yn y sector trydyddol ym maes iechyd a gofal. Gall y prosiect fod yn rhan o waith academaidd, gweithgaredd allgyrsiol, yn fenter cymunedol neu’n ddatblygiad proffesiynol sy’n cyfrannu at gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y sector.
Mae’r wobr yn agored i enwebiadau o'r sector drydyddol gyfan ac yn gyfle i uwcholeuo amrywiaeth y dulliau dysgu sydd ar gael, yn ogystal â’r rôl hanfodol y mae unigolion yn chwarae wrth ddatblygu gweithlu dwyieithog yn y maes iechyd a gofal.
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:
“Mae Gwobrau’r Coleg yn gyfle i roi cydnabyddiaeth a chanmoliaeth i waith a chyfraniad unigolion ar draws Cymru tuag at addysg Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau ac mewn chweched dosbarth ysgolion.
“Mae gwaith arbennig yn cael ei gyflawni gan staff a myfyrwyr ar draws y sefydliadau, ac mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at adeiladu gweithlu dwyieithog mewn amrywiol feysydd.
“Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau cryf eto eleni, ac i ddathlu llwyddiant yr enillwyr yn noson wobrau’r Coleg yn nhymor yr haf.”
I weld y rhestr lawn o gategorïau, y canllawiau, ac i enwebu, gellir mynd i'r adran ‘Gwobrau’ ar wefan y Coleg Cymraeg.
Mae’r cyfnod enwebiadau yn cau ar y 23 Chwefror, 2026.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrau ar 17 Mehefin yng Nghaerdydd.
Ewch i Instagram, Tik Tok, Linked In, Bluesky, neu Facebook y Coleg i ddilyn yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.