Wrth edrych ymlaen at arlwy’r Coleg Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, meddai Prif Weithredwr y Coleg, Dr Ioan Matthews:
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un brysur i’r Coleg wrth i ni ehangu ymhellach y ddarpariaeth Gymraeg yn y sectorau addysg bellach, prentisiaethau ac addysg uwch. Rydym yn hynod o gyffrous i fod yn dychwelyd i faes y Brifwyl ym Moduan eleni er mwyn rhoi llwyfan i’n myfyrwyr, dysgwyr a’n darlithwyr yn ein digwyddiadau amrywiol, yn ogystal â dathlu’r cydweithio llwyddiannus gyda’n partneriaid.
“Hoffwn annog pawb - yn ddisgyblion ysgol, yn ddysgwyr mewn colegau addysg bellach, yn fyfyrwyr, yn rhieni, neu yn gyfeillion i’r Coleg i alw mewn i’n pabell yn ystod yr wythnos. Bydd croeso cynnes i bawb a bydd gwledd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ddyddiol.”
YMLAEN GYDA’N GILYDD – DATBLYGU’R GWEITHLU CYMRAEG MEWN ADDYSG, dydd Mawrth 8 Awst 12:30, pabell y Coleg Cymraeg.
Mae’r Coleg Cymraeg a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal digwyddiad ar y cyd yng nghwmni Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. Bydd y digwyddiad yn gyfle i ran-ddeiliaid sy’n gweithio yn y maes addysg Gymraeg glywed gan y Gweinidog am y Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg, ei chynllun deng mlynedd ar gyfer datblygu’r Gymraeg yn y gweithlu addysg. Bydd cyfle hefyd i glywed mwy am brosiectau’r Coleg a’r Ganolfan sy’n llifo o’r Cynllun.
IECHYD MEDDWL A FI: Y GANTORES LILY BEAU, YR ACTORES HELEDD ROBERTS, A LLYSGENHADON Y COLEG YN TRAFOD IECHYD MEDDWL POBL IFANC, dydd Iau, 10 Awst 11:00, pabell y Coleg Cymraeg.
Eleni mae llysgenhadon y Coleg Cymraeg wedi dewis yr elusen iechyd meddwl, Mind Cymru i'r Coleg ei gefnogi, elusen sy’n agos iawn at galon nifer ohonynt. Cynhelir sgwrs banel i drafod iechyd meddwl pobl ifanc a’r gefnogaeth sydd angen arnynt. Ar y panel bydd rhai o lysgenhadon y Coleg; y gantores, Lily Beau fydd yn rhannu sut mae hi’n sianeli negyddiaeth i fod yn greadigol; Heledd Roberts, yr actores o’r gyfres deledu, Rownd a Rownd a cyn-lysgennad y Coleg sy’n codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl pobl ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol; ac arbenigwyr a chlinigwyr yn y maes. Bydd y panelwyr yn rhannu eu profiadau personol a bydd cyfle i glywed am rai o’r materion sy’n poeni myfyrwyr a phobl ifanc heddiw, pa gefnogaeth sydd ar gael, a pha mor bwysig ydy gallu trafod a chael cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal bydd cyfle i drafod pwysigrwydd sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y prifysgolion er mwyn sicrhau gweithlu dwyieithog yn y maes.
DERBYNIAD BLYNYDDOL Y COLEG, dydd Mercher, 9 Awst, 16:00, pabell y Coleg (trwy wahoddiad yn unig)
Mae’r derbyniad I yn gyfle i gyfeillion y Coleg o wahanol sefydliadau ddod at ei gilydd ac eleni bydd pum gwobr yn cael eu cyflwynogan y Coleg i fyfyrwyr a darlithwyr sydd wedi serennu. Ymhlith y gwobrau i’w cyflwyno bydd:Gwobr Goffa Gwyn Thomas; Gwobr Goffa Dr John Davies; Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan; Gwobr Norah Isaac; a a Gwobr Gwerddon. Mae modd darllen am y gwobrau ar wefan y Coleg Cymraeg.
DARLITH FLYNYDDOL Y COLEG, dydd Mawrth, 8 Awst, 11:00, y Babell Lên
Mae darlith flynddol y Coleg Cymraeg yn y Babell Lên yn un o uchafbwyntiau’r amserlen erbyn hyn ac eleni yr Athro Jerry Hunter fydd yn traddodi’r ddarlith,“Deisyf cynnes a theimladwy am Ryddid”: diwylliant gwrthgaethiwol Cymraeg America a’r Rhyfel Cartref.
Y GYMRAEG MEWN ADDYSG BELLACH: CHWYDDWYDR AR Y MEYSYDD IECHYD A GOFAL A CHWARAEON AC ADDYSG AWYR AGORED, dydd Gwener, 11 Awst, 12:30, pabell Grŵp Llandrillo Menai
Bydd tri chorff addysg, Cymwysterau Cymru, Grŵp Llandrillo Menai a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dod at ei gilydd i drafod y Gymraeg mewn addysg bellach yng nghwmni Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. Fel rhan o’r digwyddiad bydd cyfle i glywed gan ddysgwyr a darlithwyr yn y meysydd Iechyd a Gofal, a Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored. Bydd yn gyfle i adlewyrchu ar sut mae’r gwaith yn y sector addysg bellach yn cyfrannu at greu siaradwyr Cymraeg hyderus a gweithlu dwyieithog y dyfodol.
Yn ogystal â’r uchafbwyntiau uchod cynhelir llu o ddigwyddiadau eraill drwy gydol yr wythnos ym mhabell y Coleg gan gynnwys gweithdai gwyddonol a chreadigol, sesiynau celf, a chyflwyniad gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar hanes pentref Llanfrothen. Bydd adloniant gwerin gyda TwmpDaith, a nifer o berfformiadau byw gan fandiau amrywiol megis Bwncath, Tesni Hughes, Aelwyd y Waun Ddyfal, Dros Dro, Gwenu a Dadleoli. Mae’r rhaglen gyfan o ddigwyddiadau ar wefan y Coleg Cymraeg