Llywodraethiant
Mae pump is-bwyllgor i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr. Mae tri ohonynt yn is-bwyllgorau sefydlog sy’n craffu ar wahanol agweddau o lywodraethiant a rheolaeth y Coleg, sef y Pwyllgor Penodiadau a Safonau Llywodraethiant, y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol. Mae’r ddau is-bwyllgor arall – y Bwrdd Academaidd a’r Bwrdd Strategol Ôl-16 – yn cynnwys cynrychiolaeth o gymunedau staff a dysgwyr y sector addysg uwch a’r sector addysg bellach a phrentisiaethau ac yn cynghori’r Coleg ar ei gynlluniau a’i weithgareddau.