Swyddi
Teitl Swydd: Datblygwr Systemau
Cyflog: £31,236 – £37,694 (Pwyntiau sbinol 22 – 29)
Lleoliad: Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Caernarfon-Mae hyblygrwydd i weithio yn rhannol o adref fel rhan o’n dull gweithio hybrid
Statws Cyflogaeth: Llawn amser, parhaol
Dyddiad Cau: 14:00 20 Hydref 2025
Dyddiad Cyfweliad: 4 Tachwedd 2025 yng Nghaerfyrddin
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn cymwys, trefnus, a chreadigol i gydlynu datblygiad systemau prosesu data’r Coleg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda darparwyr a cyflenwyr allanol sy’n datblygu neu ddarparu systemau a chymwysiadau prosesu data i’r Coleg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar ddatblygiadau mewnol, pellach i’r systemau ac yn datblygu a mireinio prosesau integreiddio.
Teitl Swydd: Ymgynghorydd Strategol (Iechyd a Gofal)
Cyflog: £58, 225 (Pwynt Sbinol 44)
Lleoliad: Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Caernarfon-Mae hyblygrwydd i weithio yn rhannol o adref fel rhan o’n dull gweithio hybrid
Statws Cyflogaeth: Rhan amser (0.6FTE) cyfnod penodol hyd at 31 Ionawr 2027
Mae'r Coleg yn barod i ystyried secondiad ar gyfer y rôl yma
Dyddiad Cau: 14:00 20 Hydref 2025
Dyddiad Cyfweliad: 3 Tachwedd 2025 yng Nghaerfyrddin
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am Ymgynghorydd Strategol rhan-amser i arwain ar weithrediad a datblygiad strategaeth academaidd uchelgeisiol yn y sector Iechyd a Gofal.
Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y sector Iechyd a Gofal, meithrin partneriaethau cenedlaethol gyda sefydliadau allweddol, ac i gyfrannu’n uniongyrchol at lunio polisïau sy’n llywio datblygiad y gweithlu yng Nghymru.
Byddwch yn arwain ar gynllunio strategol, dadansoddi tueddiadau ac anghenion y sector, ac yn cyfrannu at waith ehangach y Coleg ar draws y sector ôl-16 o fewn maes cynllunio, darpariaeth, staffio, ymchwil a pholisi.
Cyfleoedd Eraill
Nid oes cyfleoedd eraill ar hyn o bryd